×

Beibl William Morgan 1955

Salmau 107

1
Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
2
Felly dyweded gwaredigion yr ARGLWYDD, y rhai a waredodd efe o law y gelyn;
3
Ac a gasglodd efe o'r tiroedd, o'r dwyrain, ac o'r gorllewin, o'r gogledd, ac o'r deau.
4
Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi:
5
Yn newynog ac yn sychedig, eu henaid a lewygodd ynddynt.
6
Yna y llefasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a'u gwaredodd o'u gorthrymderau;
7
Ac a'u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol.
8
O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!
9
Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig, ac a leinw yr enaid newynog â daioni.
10
Y rhai a breswyliant yn y tywyllwch a chysgod angau, yn rhwym mewn cystudd a haearn:
11
Oherwydd anufuddhau ohonynt eiriau DUW, a dirmygu cyngor y Goruchaf.
12
Am hynny yntau a ostyngodd eu calon â blinder: syrthiasant, ac nid oedd cynorthwywr.
13
Yna y gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a'u hachubodd o'u gorthrymderau.
14
Dug hwynt allan o dywyllwch a chysgod angau; a drylliodd eu rhwymau hwynt.
15
O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!
16
Canys efe a dorrodd y pyrth pres, ac a ddrylliodd y barrau heyrn.
17
Ynfydion, oblegid eu camweddau, ac oherwydd eu hanwireddau, a gystuddir.
18
Eu henaid a ffieiddiai bob bwyd; a daethant hyd byrth angau.
19
Yna y gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a'u hachubodd o'u gorthrymderau.
20
Anfonodd ei air, ac iachaodd hwynt, ac a'u gwaredodd o'u dinistr.
21
O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!
22
Aberthant hefyd aberth moliant; a mynegant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd.
23
Y rhai a ddisgynnant mewn llongau i'r môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion.
24
Hwy a welant weithredoedd yr ARGLWYDD, a'i ryfeddodau yn y dyfnder.
25
Canys efe a orchymyn, a chyfyd tymhestlwynt, yr hwn a ddyrchafa ei donnau ef.
26
Hwy a esgynnant i'r nefoedd, disgynnant i'r dyfnder: tawdd eu henaid gan flinder.
27
Ymdroant, ac ymsymudant fel meddwyn: a'u holl ddoethineb a ballodd.
28
Yna y gwaeddant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a'u dwg allan o'u gorthrymderau.
29
Efe a wna yr ystorm yn dawel; a'i thonnau a ostegant.
30
Yna y llawenhânt am eu gostegu; ac efe a'u dwg i'r porthladd a ddymunent.
31
O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!
32
A dyrchafant ef yng nghynulleidfa y bobl, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid.
33
Efe a wna afonydd yn ddiffeithwch, a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir;
34
A thir ffrwythlon yn ddiffrwyth, am ddrygioni y rhai a drigant ynddo.
35
Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr, a'r tir cras yn ffynhonnau dwfr.
36
Ac yno y gwna i'r newynog aros; fel y darparont ddinas i gyfanheddu:
37
Ac yr heuont feysydd, ac y plannont winllannoedd, y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog.
38
Ac efe a'u bendithia hwynt fel yr amlhânt yn ddirfawr, ac ni ad i'w hanifeiliaid leihau.
39
Lleiheir hwynt hefyd, a gostyngir hwynt, gan gyfyngder, drygfyd, a chyni.
40
Efe a dywallt ddirmyg ar foneddigion, ac a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd.
41
Ond efe a gyfyd y tlawd o gystudd, ac a wna iddo deuluoedd fel praidd.
42
Y rhai uniawn a welant hyn, ac a lawenychant: a phob anwiredd a gae ei safn.
43
Y neb sydd ddoeth, ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau yr ARGLWYDD.
Welsh Bible 1955
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor. The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible 1955 British and Foreign Bible Society
:
Cadw Nodiadau