Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 Cn. Salm. I Ddafydd.0 Y mae fy nghalon yn gadarn, O Dduw; fe ganaf, a rhoi mawl. Deffro, fy enaid. |
| 2 |
| Deffro di, nabl a thelyn. Fe ddeffroaf ar doriad gwawr. |
| 3 |
| Rhof ddiolch i ti, O ARGLWYDD, ymysg y bobloedd, a chanmolaf di ymysg y cenhedloedd, |
| 4 |
| oherwydd y mae dy gariad yn ymestyn hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau. |
| 5 |
| Dyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw, a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear. |
| 6 |
| Er mwyn gwaredu dy anwyliaid, achub 'th ddeheulaw, ac ateb ni. |
| 7 |
| Llefarodd Duw yn ei gysegr, "Yr wyf yn gorfoleddu wrth rannu Sichem, a mesur dyffryn Succoth yn rhannau; |
| 8 |
| eiddof fi yw Gilead a Manasse; Effraim yw fy helm, a Jwda yw fy nheyrnwialen; |
| 9 |
| Moab yw fy nysgl ymolchi, ac at Edom y taflaf fy esgid; ac yn erbyn Philistia y gorfoleddaf." |
| 10 |
| Pwy a'm dwg i'r ddinas gaerog? Pwy a'm harwain i Edom? |
| 11 |
| Onid ti, O Dduw, er iti'n gwrthod, a pheidio mynd allan gyda'n byddinoedd? |
| 12 |
| Rho inni gymorth rhag y gelyn, oherwydd ofer yw ymwared dynol. |
| 13 |
| Gyda Duw fe wnawn wrhydri; ef fydd yn sathru ein gelynion. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/108.mp3
150
108