×

Beibl William Morgan 1955

Salmau 108

1
Cân neu Salm Dafydd. [1] Parod yw fy nghalon, O DDUW: canaf a chanmolaf â'm gogoniant.
2
Deffro, y nabl a'r delyn: minnau a ddeffroaf yn fore.
3
Clodforaf di, ARGLWYDD, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd.
4
Canys mawr yw dy drugaredd oddi ar y nefoedd: a'th wirionedd a gyrraedd hyd yr wybren.
5
Ymddyrcha, O DDUW, uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear;
6
Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â'th ddeheulaw, a gwrando fi.
7
DUW a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf, rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.
8
Eiddof fi yw Gilead; eiddof fi Manasse; Effraim hefyd yw nerth fy mhen: Jwda yw fy neddfwr.
9
Moab yw fy nghrochan golchi; tros Edom y taflaf fy esgid: buddugoliaethaf ar Philistia.
10
Pwy a'm dwg i'r ddinas gadarn? pwy a'm dwg hyd yn Edom?
11
Onid tydi, O DDUW, yr hwn a'n bwriaist ymaith? ac onid ei di allan, O DDUW, gyda'n lluoedd?
12
Dyro i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys gau yw ymwared dyn.
13
Trwy DDUW y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.
Welsh Bible 1955
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor. The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible 1955 British and Foreign Bible Society
:
Cadw Nodiadau