|
| 1 |
|
| 1 I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd. Salm.0 O Dduw fy moliant, paid thewi. |
|
| 2 |
|
| Oherwydd agorasant eu genau drygionus a thwyllodrus yn fy erbyn, a llefaru wrthyf thafod celwyddog, |
|
| 3 |
|
| a'm hamgylchu geiriau casineb, ac ymosod arnaf heb achos. |
|
| 4 |
|
| Am fy ngharedigrwydd y'm cyhuddant, a minnau'n gweddo drostynt. |
|
| 5 |
|
| Talasant imi ddrwg am dda, a chasineb am gariad. |
|
| 6 |
|
| Apwyntier un drwg yn ei erbyn, a chyhuddwr i sefyll ar ei dde. |
|
| 7 |
|
| Pan fernir ef, caffer ef yn euog, ac ystyrier ei weddi'n bechod. |
|
| 8 |
|
| Bydded ei ddyddiau'n ychydig, a chymered arall ei swydd; |
|
| 9 |
|
| bydded ei blant yn amddifad a'i wraig yn weddw. |
|
| 10 |
|
| Crwydred ei blant i gardota wedi eu troi allan o'u hadfeilion. |
|
| 11 |
|
| Cymered y benthyciwr bopeth sydd ganddo, a dyged estroniaid ei enillion. |
|
| 12 |
|
| Na fydded i neb drugarhau wrtho, na gwneud ffafr 'i blant amddifad. |
|
| 13 |
|
| Torrer ymaith ei linach, a'i henw wedi ei ddileu o fewn cenhedlaeth. |
|
| 14 |
|
| Dyger i gof ddrygioni ei hynafiaid gerbron yr ARGLWYDD, ac na ddileer pechodau ei fam. |
|
| 15 |
|
| Bydded hyn mewn cof gan yr ARGLWYDD yn wastad, a bydded iddo dorri ymaith eu coffa o'r tir. |
|
| 16 |
|
| Oherwydd ni chofiodd hwn fod yn ffyddlon, ond erlidiodd y gorthrymedig a'r tlawd, a'r drylliedig o galon hyd angau. |
|
| 17 |
|
| Carodd felltithio: doed melltith arno yntau. Ni hoffai fendithio; pell y bo bendith oddi wrtho yntau. |
|
| 18 |
|
| Gwisgodd felltith amdano fel dilledyn; suddodd i'w gnawd fel du373?r, ac fel olew i'w esgyrn. |
|
| 19 |
|
| Bydded fel y dillad a wisga, ac fel y gwregys sydd amdano bob amser. |
|
| 20 |
|
| Hyn fyddo tl yr ARGLWYDD i'm cyhuddwyr, sy'n llefaru drygioni yn fy erbyn. |
|
| 21 |
|
| Ond tydi, fy ARGLWYDD Dduw, gweithreda drosof er mwyn dy enw; oherwydd daioni dy gariad, gwareda fi. |
|
| 22 |
|
| Yr wyf yn druan a thlawd, a'm calon mewn gwewyr ynof. |
|
| 23 |
|
| Yr wyf yn darfod fel cysgod hwyrddydd; fe'm gyrrir ymaith fel locust. |
|
| 24 |
|
| Y mae fy ngliniau'n wan gan ympryd, a'm corff yn denau o ddiffyg braster. |
|
| 25 |
|
| Deuthum yn gyff gwawd iddynt; pan welant fi, ysgydwant eu pennau. |
|
| 26 |
|
| Cynorthwya, fi, O ARGLWYDD fy Nuw, achub fi yn l dy drugaredd, |
|
| 27 |
|
| a gad iddynt wybod mai dy law di ydyw, mai ti, ARGLWYDD, a'i gwnaeth. |
|
| 28 |
|
| Pan fnt hwy'n melltithio, bendithia di; cywilyddier fy ngwrthwynebwyr, a bydded dy was yn llawen. |
|
| 29 |
|
| Gwisger fy nghyhuddwyr gwarth; bydded eu cywilydd fel mantell amdanynt. |
|
| 30 |
|
| Clodforaf fi yr ARGLWYDD 'm genau, a moliannaf ef yng ngu373?ydd cynulleidfa. |
|
| 31 |
|
| Oherwydd saif ef ar ddeheulaw'r tlawd, i'w achub rhag ei gyhuddwyr. |
|
|
|
|