|
| 1 |
|
| I'r Pencerdd, Salm Dafydd. [1] Na thaw, O DDUW fy moliant. |
|
| 2 |
|
| Canys genau yr annuwiol a genau y twyllodrus a ymagorasant arnaf: â thafod celwyddog y llefarasant i'm herbyn. |
|
| 3 |
|
| Cylchynasant fi hefyd â geiriau cas; ac ymladdasant â mi heb achos. |
|
| 4 |
|
| Am fy ngharedigrwydd y'm gwrthwynebant: minnau a arferaf weddi. |
|
| 5 |
|
| Talasant hefyd i mi ddrwg am dda, a chas am fy nghariad. |
|
| 6 |
|
| Gosod dithau un annuwiol arno ef; a safed Satan wrth ei ddeheulaw ef. |
|
| 7 |
|
| Pan farner ef, eled yn euog; a bydded ei weddi yn bechod. |
|
| 8 |
|
| Ychydig fyddo ei ddyddiau; a chymered arall ei swydd ef. |
|
| 9 |
|
| Bydded ei blant yn amddifaid, a'i wraig yn weddw. |
|
| 10 |
|
| Gan grwydro hefyd crwydred ei blant ef, a chardotant: ceisiant hefyd eu bara o'u hanghyfannedd leoedd. |
|
| 11 |
|
| Rhwyded y ceisiad yr hyn oll sydd ganddo; ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef. |
|
| 12 |
|
| Na fydded neb a estynno drugaredd iddo; ac na fydded neb a drugarhao wrth ei amddifaid ef. |
|
| 13 |
|
| Torrer ymaith ei hiliogaeth ef: dileer eu henw yn yr oes nesaf. |
|
| 14 |
|
| Cofier anwiredd ei dadau o flaen yr ARGLWYDD; ac na ddileer pechod ei fam ef. |
|
| 15 |
|
| Byddant bob amser gerbron yr ARGLWYDD, fel y torro efe ymaith eu coffadwriaeth o'r tir: |
|
| 16 |
|
| Am na chofiodd wneuthur trugaredd, eithr erlid ohono y truan a'r tlawd, a'r cystuddiedig o galon, i'w ladd. |
|
| 17 |
|
| Hoffodd felltith, a hi a ddaeth iddo: ni fynnai fendith, a hi a bellhaodd oddi wrtho. |
|
| 18 |
|
| Ie, gwisgodd felltith fel dilledyn; a hi a ddaeth fel dwfr i'w fewn, ac fel olew i'w esgyrn. |
|
| 19 |
|
| Bydded iddo fel dilledyn yr hwn a wisgo efe, ac fel gwregys a'i gwregyso efe yn wastadol. |
|
| 20 |
|
| Hyn fyddo tâl fy ngwrthwynebwyr gan yr ARGLWYDD, a'r rhai a ddywedant ddrwg yn erbyn fy enaid. |
|
| 21 |
|
| Tithau, ARGLWYDD DDUW, gwna erof fi er mwyn dy enw: am fod yn dda dy drugaredd, gwared fi. |
|
| 22 |
|
| Canys truan a thlawd ydwyf fi, a'm calon a archollwyd o'm mewn. |
|
| 23 |
|
| Euthum fel cysgod pan gilio: fel locust y'm hysgydwir. |
|
| 24 |
|
| Fy ngliniau a aethant yn egwan gan ympryd; a'm cnawd a guriodd o eisiau braster. |
|
| 25 |
|
| Gwaradwydd hefyd oeddwn iddynt: pan welent fi, siglent eu pennau. |
|
| 26 |
|
| Cynorthwya fi, O ARGLWYDD fy NUW; achub fi yn ôl dy drugaredd: |
|
| 27 |
|
| Fel y gwypont mai dy law di yw hyn; mai ti, ARGLWYDD, a'i gwnaethost. |
|
| 28 |
|
| Melltithiant hwy, ond bendithia di: cywilyddier hwynt, pan gyfodant; a llawenyched dy was. |
|
| 29 |
|
| Gwisger fy ngwrthwynebwyr â gwarth, ac ymwisgant â'u cywilydd, megis â chochl. |
|
| 30 |
|
| Clodforaf yr ARGLWYDD yn ddirfawr â'm genau; ie, moliannaf ef ymysg llawer. |
|
| 31 |
|
| Oherwydd efe a saif ar ddeheulaw y tlawd, i'w achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid. |
|
|
|
|