Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd.0 Yn yr ARGLWYDD y cefais loches; sut y gallwch ddweud wrthyf, "Ffo fel aderyn i'r mynydd, |
| 2 |
| oherwydd y mae'r drygionus yn plygu'r bwa ac yn gosod eu saethau yn y llinyn i saethu yn y tywyllwch at yr uniawn"? |
| 3 |
| Os dinistrir y sylfeini, beth a wna'r cyfiawn? |
| 4 |
| Y mae'r ARGLWYDD yn ei deml sanctaidd, a gorsedd yr ARGLWYDD yn y nefoedd; y mae ei lygaid yn edrych ar y ddynolryw, a'i olygon yn ei phrofi. |
| 5 |
| Profa'r ARGLWYDD y cyfiawn a'r drygionus, a chas ganddo'r sawl sy'n caru trais. |
| 6 |
| Y mae'n glawio marwor tanllyd a brwmstan ar y drygionus; gwynt deifiol fydd eu rhan. |
| 7 |
| Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn ac yn caru cyfiawnder, a'r uniawn sy'n gweld ei wyneb. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/011.mp3
150
11