×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 11

1
I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. [1] Dw i wedi troi at yr ARGLWYDD i'm cadw'n saff. Felly sut allwch chi ddweud wrtho i: “Dianc i'r mynyddoedd fel aderyn!”?
2
“Gwylia dy hun! Mae'r rhai drwg yn plygu eu bwa, ac yn gosod saeth ar y llinyn i saethu o'r cysgodion at y rhai sy'n byw'n gywir!”
3
Pan mae'r sylfeini wedi chwalu, beth all y cyfiawn ei gyflawni?
4
Mae'r ARGLWYDD yn ei balas sanctaidd! Ie, yr ARGLWYDD — mae ei orsedd yn y nefoedd! Mae e'n gweld y cwbl! Mae'n edrych yn fanwl ar y ddynoliaeth.
5
Mae'r ARGLWYDD yn gwylio y rhai cyfiawn, ond mae'n casáu y rhai drwg a'r rhai sy'n hoffi trais.
6
Bydd yn tywallt tân a lafa ar y rhai drwg! Corwynt dinistriol maen nhw'n ei haeddu!
7
Ydy, mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn. Mae'n caru gweld cyfiawnder, a bydd y rhai sy'n byw'n gywir yn cael gweld ei wyneb.
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau