Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I Ddafydd. Salm.0 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd: "Eistedd ar fy neheulaw, nes imi wneud dy elynion yn droedfainc i ti." |
| 2 |
| Y mae'r ARGLWYDD yn estyn i ti o Seion deyrnwialen awdurdod; llywodraetha dithau yng nghanol dy elynion. |
| 3 |
| Y mae dy bobl yn deyrngar iti ar ddydd dy eni mewn gogoniant sanctaidd o groth y wawr; fel gwlith y'th genhedlais di. |
| 4 |
| Tyngodd yr ARGLWYDD, ac ni newidia, "Yr wyt yn offeiriad am byth yn l urdd Melchisedec." |
| 5 |
| Y mae'r Arglwydd ar dy ddeheulaw yn dinistrio brenhinoedd yn nydd ei ddicter. |
| 6 |
| Fe weinydda farn ymysg y cenhedloedd, a'u llenwi chelanedd; dinistria benaethiaid dros ddaear lydan. |
| 7 |
| Fe yf o'r nant ar y ffordd, ac am hynny y cwyd ei ben. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/110.mp3
150
110