×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 110

1
Salm gan Dafydd. [1] Dwedodd yr ARGLWYDD wrth fy arglwydd, “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi wneud dy elynion yn stôl dan dy draed di.”
2
Bydd yr ARGLWYDD yn estyn dy deyrnas o Seion, a byddi'n rheoli'r gelynion sydd o dy gwmpas!
3
Mae dy bobl yn barod i dy ddilyn i'r frwydr. Ar y bryniau sanctaidd bydd byddin ifanc yn dod atat fel gwlith yn codi o groth y wawr.
4
Mae'r ARGLWYDD wedi tyngu llw, a fydd e ddim yn torri ei air, “Rwyt ti'n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.”
5
Mae'r ARGLWYDD, sydd ar dy ochr dde di, yn sathru brenhinoedd ar y diwrnod pan mae'n ddig.
6
Mae'n cosbi'r cenhedloedd, yn pentyrru'r cyrff marw ac yn sathru eu harweinwyr drwy'r byd i gyd.
7
Ond bydd e'n yfed o'r nant ar ochr y ffordd, ac yn codi ar ei draed yn fuddugol.
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau