×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 111

1
Molwch yr ARGLWYDD. Diolchaf i'r ARGLWYDD 'm holl galon yng nghwmni'r uniawn, yn y gynulleidfa.
2
Mawr yw gweithredoedd yr ARGLWYDD, fe'u harchwilir gan bawb sy'n ymhyfrydu ynddynt.
3
Llawn anrhydedd a mawredd yw ei waith, a saif ei gyfiawnder am byth.
4
Gwnaeth inni gofio ei ryfeddodau; graslon a thrugarog yw'r ARGLWYDD.
5
Mae'n rhoi bwyd i'r rhai sy'n ei ofni, ac yn cofio ei gyfamod am byth.
6
Dangosodd i'w bobl rym ei weithredoedd trwy roi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.
7
Y mae gwaith ei ddwylo yn gywir a chyfiawn, a'i holl orchmynion yn ddibynadwy;
8
y maent wedi eu sefydlu hyd byth, ac wedi eu llunio o wirionedd ac uniondeb.
9
Rhoes waredigaeth i'w bobl, a gorchymyn ei gyfamod dros byth. Sanctaidd ac ofnadwy yw ei enw.
10
Dechrau doethineb yw ofn yr ARGLWYDD; y mae deall da gan bawb sy'n ufudd. Y mae ei foliant yn para byth.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau