×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 111

1
Haleliwia! Dw i'n diolch i'r ARGLWYDD o waelod calon, o flaen y gynulleidfa o'i bobl ffyddlon.
2
Mae'r ARGLWYDD yn gwneud pethau mor fawr! Maen nhw'n bleser pur i bawb sy'n myfyrio arnyn nhw.
3
Mae'r cwbl yn dangos ei ysblander a'i urddas, a'i fod e bob amser yn ffyddlon.
4
Mae pawb yn sôn am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud! Mae'r ARGLWYDD mor garedig a thrugarog!
5
Mae e'n rhoi bwyd i'w rai ffyddlon; mae bob amser yn cofio'r ymrwymiad wnaeth e.
6
Dwedodd wrth ei bobl y byddai'n gwneud pethau mawr, a rhoi tir cenhedloedd eraill iddyn nhw.
7
Mae e wedi bod yn ffyddlon ac yn gyfiawn. Mae'r pethau mae'n eu dysgu yn gwbl ddibynadwy,
8
ac yn sefyll am byth. Maen nhw'n ffyddlon ac yn deg.
9
Mae wedi gollwng ei bobl yn rhydd, ac wedi sicrhau fod ei ymrwymiad yn sefyll bob amser. Mae ei enw'n sanctaidd ac i gael ei barchu.
10
Parchu'r ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf i fod yn ddoeth. Mae pawb sy'n gwneud hynny yn gwneud y peth call. Mae e'n haeddu ei foli am byth!
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau