Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Molwch yr ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD, ac yn ymhyfrydu'n llwyr yn ei orchmynion. |
| 2 |
| Bydd ei ddisgynyddion yn gedyrn ar y ddaear, yn genhedlaeth uniawn wedi ei bendithio. |
| 3 |
| Bydd golud a chyfoeth yn ei du375?, a bydd ei gyfiawnder yn para am byth. |
| 4 |
| Fe lewyrcha goleuni mewn tywyllwch i'r uniawn; y mae'r cyfiawn yn raslon a thrugarog. |
| 5 |
| Da yw i bob un drugarhau a rhoi benthyg, a threfnu ei orchwylion yn onest; |
| 6 |
| oherwydd ni symudir ef o gwbl, a chofir y cyfiawn dros byth. |
| 7 |
| Nid yw'n ofni newyddion drwg; y mae ei galon yn ddi-gryn, yn ymddiried yn yr ARGLWYDD. |
| 8 |
| Y mae ei galon yn ddi-sigl, ac nid ofna nes iddo weld diwedd ar ei elynion. |
| 9 |
| Y mae wedi rhoi'n hael i'r tlodion; y mae ei gyfiawnder yn para am byth, a'i gorn wedi ei ddyrchafu mewn anrhydedd. |
| 10 |
| Gwl y drygionus hyn ac y mae'n ddig; ysgyrnyga'i ddannedd a diffygia; derfydd am obaith y drygionus. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/112.mp3
150
112