Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Molwch yr ARGLWYDD. Molwch, chwi weision yr ARGLWYDD, molwch enw'r ARGLWYDD. |
| 2 |
| Bendigedig fyddo enw'r ARGLWYDD o hyn allan a hyd byth. |
| 3 |
| O godiad haul hyd ei fachlud bydded enw'r ARGLWYDD yn foliannus. |
| 4 |
| Uchel yw'r ARGLWYDD goruwch yr holl genhedloedd, a'i ogoniant goruwch y nefoedd. |
| 5 |
| Pwy sydd fel yr ARGLWYDD ein Duw yn y nefoedd neu ar y ddaear, |
| 6 |
| yn gosod ei orseddfainc yn uchel a hefyd yn ymostwng i edrych yn isel? |
| 7 |
| Y mae ef yn codi'r gwan o'r llwch ac yn dyrchafu'r anghenus o'r domen, |
| 8 |
| i'w gosod gyda phendefigion, gyda phendefigion ei bobl. |
| 9 |
| Rhydd deulu i'r wraig ddi-blant; daw hi'n fam lawen i blant. Molwch yr ARGLWYDD. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/113.mp3
150
113