×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 113

1
Haleliwia! Molwch e, weision yr ARGLWYDD! Molwch enw'r ARGLWYDD!
2
Boed i enw'r ARGLWYDD gael ei fendithio, nawr ac am byth.
3
Boed i enw'r ARGLWYDD gael ei foli drwy'r byd i gyd!
4
Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu dros yr holl genhedloedd! Mae ei ysblander yn uwch na'r nefoedd.
5
Does neb tebyg i'r ARGLWYDD ein Duw, sy'n eistedd ar ei orsedd uchel!
6
Mae'n plygu i lawr i edrych ar y nefoedd a'r ddaear oddi tano.
7
Mae e'n codi pobl dlawd o'r baw, a'r rhai sydd mewn angen o'r domen sbwriel.
8
Mae'n eu gosod i eistedd gyda'r bobl fawr, ie, gydag arweinwyr ei bobl.
9
Mae'n rhoi cartref i'r wraig ddi-blant, ac yn ei gwneud hi'n fam hapus. Haleliwia!
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau