Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Pan aeth pobl Israel allan o'r Aifft — pan adawodd teulu Jacob y wlad lle roedden nhw'n siarad iaith estron — |
| 2 |
| daeth Jwda yn dir cysegredig, ac Israel yn deyrnas iddo. |
| 3 |
| Dyma'r Môr Coch yn eu gweld nhw'n dod ac yn symud o'r ffordd. Dyma lif yr Iorddonen yn cael ei ddal yn ôl. |
| 4 |
| Roedd y mynyddoedd yn neidio fel hyrddod, a'r bryniau yn prancio fel ŵyn. |
| 5 |
| Beth wnaeth i ti symud o'r ffordd, fôr? Beth wnaeth dy ddal di yn ôl, Iorddonen? |
| 6 |
| Beth wnaeth i chi neidio fel hyrddod, fynyddoedd? Beth wnaeth i chi brancio fel ŵyn, fryniau? |
| 7 |
| Cryna, ddaear, am fod yr ARGLWYDD yn dod! Mae Duw Jacob ar ei ffordd! |
| 8 |
| Y Duw wnaeth droi'r graig yn bwll o ddŵr. Do, llifodd ffynnon ddŵr o garreg fflint! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/114.mp3
150
114