×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 115

1
Nid i ni, O ARGLWYDD, nid i ni, ond i'th enw dy hun, rho ogoniant, er mwyn dy gariad a'th ffyddlondeb.
2
Pam y mae'r cenhedloedd yn dweud, "Ple mae eu Duw?"
3
Y mae ein Duw ni yn y nefoedd; fe wna beth bynnag a ddymuna.
4
Arian ac aur yw eu delwau hwy, ac wedi eu gwneud dwylo dynol.
5
Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad, a llygaid nad ydynt yn gweld;
6
y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed, a ffroenau nad ydynt yn arogli;
7
y mae ganddynt ddwylo nad ydynt yn teimlo, a thraed nad ydynt yn cerdded; ac ni ddaw su373?n o'u gyddfau.
8
Y mae eu gwneuthurwyr yn mynd yn debyg iddynt, ac felly hefyd bob un sy'n ymddiried ynddynt.
9
O Israel, ymddirieda yn yr ARGLWYDD. Ef yw eu cymorth a'u tarian.
10
O du375? Aaron, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD. Ef yw eu cymorth a'u tarian.
11
Chwi sy'n ofni'r ARGLWYDD, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD. Ef yw eu cymorth a'u tarian.
12
Y mae'r ARGLWYDD yn ein cofio ac yn ein bendithio; fe fendithia du375? Israel, fe fendithia du375? Aaron,
13
fe fendithia'r rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD, y bychan a'r mawr fel ei gilydd.
14
Bydded yr ARGLWYDD yn eich amlhau, chwi a'ch plant hefyd.
15
Bydded ichwi gael bendith gan yr ARGLWYDD a wnaeth nefoedd a daear.
16
Y nefoedd, eiddo'r ARGLWYDD yw, ond fe roes y ddaear i ddynolryw.
17
Nid yw'r meirw yn moliannu'r ARGLWYDD, na'r holl rai sy'n mynd i lawr i dawelwch.
18
Ond yr ydym ni'n bendithio'r ARGLWYDD yn awr a hyd byth. Molwch yr ARGLWYDD.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau