Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Nid ni, O ARGLWYDD, nid ni — ti sy'n haeddu'r anrhydedd i gyd, am ddangos y fath gariad a ffyddlondeb. |
| 2 |
| Pam dylai pobl y cenhedloedd ddweud, “Ble mae eu Duw nhw nawr?” |
| 3 |
| Y gwir ydy mae Duw yn y nefoedd, ac mae'n gwneud beth bynnag mae eisiau! |
| 4 |
| Dydy eu heilunod nhw'n ddim ond arian ac aur wedi eu siapio gan ddwylo dynol. |
| 5 |
| Mae ganddyn nhw gegau, ond allan nhw ddim siarad; llygaid, ond allan nhw ddim gweld; |
| 6 |
| clustiau, ond allan nhw ddim clywed; trwynau, ond allan nhw ddim arogli; |
| 7 |
| dwylo, ond allan nhw ddim teimlo; traed, ond allan nhw ddim cerdded; a dydy eu gyddfau ddim yn gallu gwneud sŵn! |
| 8 |
| Mae'r bobl sy'n eu gwneud nhw, a'r bobl sydd yn eu haddoli nhw, yn troi'n debyg iddyn nhw! |
| 9 |
| Israel, cred di yn yr ARGLWYDD! Fe sy'n dy helpu di ac yn dy amddiffyn di. |
| 10 |
| Chi offeiriaid, credwch yn yr ARGLWYDD! Fe sy'n eich helpu ac yn eich amddiffyn chi. |
| 11 |
| Chi sy'n addoli'r ARGLWYDD, credwch yn yr ARGLWYDD! Fe sy'n eich helpu chi ac yn eich amddiffyn chi. |
| 12 |
| Mae'r ARGLWYDD yn cofio amdanon ni, a bydd yn ein bendithio ni — Bydd yn bendithio pobl Israel; Bydd yn bendithio teulu Aaron; |
| 13 |
| Bydd yn bendithio'r rhai sy'n addoli'r ARGLWYDD, yn ifanc a hen. |
| 14 |
| Boed i'r ARGLWYDD roi plant i chi; ie, i chi a'ch plant hefyd! |
| 15 |
| Boed i'r ARGLWYDD, wnaeth greu y nefoedd a'r ddaear, eich bendithio chi! |
| 16 |
| Yr ARGLWYDD sydd piau'r nefoedd, ond mae wedi rhoi'r ddaear yng ngofal y ddynoliaeth. |
| 17 |
| Dydy'r meirw ddim yn gallu moli'r ARGLWYDD, maen nhw wedi mynd i dawelwch y bedd. |
| 18 |
| Ond dŷn ni'n mynd i foli'r ARGLWYDD o hyn allan, ac am byth! Haleliwia! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/115.mp3
150
115