Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Yr wyf yn caru'r ARGLWYDD, am iddo wrando ar lef fy ngweddi, |
| 2 |
| am iddo droi ei glust ataf y dydd y gwaeddais arno. |
| 3 |
| Yr oedd clymau angau wedi tynhau amdanaf, a gefynnau Sheol wedi fy nal, a minnau'n dioddef adfyd ac ing. |
| 4 |
| Yna gelwais ar enw'r ARGLWYDD: "Yr wyf yn erfyn, ARGLWYDD, gwared fi." |
| 5 |
| Graslon yw'r ARGLWYDD, a chyfiawn, ac y mae ein Duw ni'n tosturio. |
| 6 |
| Ceidw'r ARGLWYDD y rhai syml; pan ddarostyngwyd fi, fe'm gwaredodd. |
| 7 |
| Gorffwysa unwaith eto, fy enaid, oherwydd bu'r ARGLWYDD yn hael wrthyt; |
| 8 |
| oherwydd gwaredodd fy enaid rhag angau, fy llygaid rhag dagrau, fy nhraed rhag baglu. |
| 9 |
| Rhodiaf gerbron yr ARGLWYDD yn nhir y rhai byw. |
| 10 |
| Yr oeddwn yn credu y byddwn wedi fy narostwng; cefais fy nghystuddio'n drwm; |
| 11 |
| yn fy nghyni dywedais, "Y mae pawb yn dwyllodrus." |
| 12 |
| Sut y gallaf dalu i'r ARGLWYDD am ei holl haelioni tuag ataf? |
| 13 |
| Dyrchafaf gwpan iachawdwriaeth, a galw ar enw'r ARGLWYDD. |
| 14 |
| Talaf fy addunedau i'r ARGLWYDD ym mhresenoldeb ei holl bobl. |
| 15 |
| Gwerthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD yw marwolaeth ei ffyddloniaid. |
| 16 |
| O ARGLWYDD, dy was yn wir wyf fi, gwas o hil gweision; yr wyt wedi datod fy rhwymau. |
| 17 |
| Rhof i ti offrwm diolch, a galw ar enw'r ARGLWYDD. |
| 18 |
| Talaf fy addunedau i'r ARGLWYDD ym mhresenoldeb ei holl bobl, |
| 19 |
| yng nghynteddau tu375?'r ARGLWYDD yn dy ganol di, O Jerwsalem. Molwch yr ARGLWYDD. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/116.mp3
150
116