|
| 1 |
|
| Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw, ac y mae ei gariad hyd byth. |
|
| 2 |
|
| Dyweded Israel yn awr, "Y mae ei gariad hyd byth." |
|
| 3 |
|
| Dyweded tu375? Aaron yn awr, "Y mae ei gariad hyd byth." |
|
| 4 |
|
| Dyweded y rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD, "Y mae ei gariad hyd byth." |
|
| 5 |
|
| O'm cyfyngder gwaeddais ar yr ARGLWYDD; atebodd yntau fi a'm rhyddhau. |
|
| 6 |
|
| Y mae'r ARGLWYDD o'm tu, nid ofnaf; beth a wna pobl i mi? |
|
| 7 |
|
| Y mae'r ARGLWYDD o'm tu i'm cynorthwyo, a gwelaf ddiwedd ar y rhai sy'n fy nghasu. |
|
| 8 |
|
| Gwell yw llochesu yn yr ARGLWYDD nag ymddiried yn neb meidrol. |
|
| 9 |
|
| Gwell yw llochesu yn yr ARGLWYDD nag ymddiried mewn tywysogion. |
|
| 10 |
|
| Daeth yr holl genhedloedd i'm hamgylchu; yn enw'r ARGLWYDD fe'u gyrraf ymaith. |
|
| 11 |
|
| Daethant i'm hamgylchu ar bob tu; yn enw'r ARGLWYDD fe'u gyrraf ymaith. |
|
| 12 |
|
| Daethant i'm hamgylchu fel gwenyn, a llosgi fel tn mewn drain; yn enw'r ARGLWYDD fe'u gyrraf ymaith. |
|
| 13 |
|
| Gwthiwyd fi'n galed nes fy mod ar syrthio, ond cynorthwyodd yr ARGLWYDD fi. |
|
| 14 |
|
| Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm cn, ac ef yw'r un a'm hachubodd. |
|
| 15 |
|
| Clywch gn gwaredigaeth ym mhebyll y rhai cyfiawn: "Y mae deheulaw'r ARGLWYDD yn gweithredu'n rymus; |
|
| 16 |
|
| y mae deheulaw'r ARGLWYDD wedi ei chodi; y mae deheulaw'r ARGLWYDD yn gweithredu'n rymus." |
|
| 17 |
|
| Nid marw ond byw fyddaf, ac adroddaf am weithredoedd yr ARGLWYDD. |
|
| 18 |
|
| Disgyblodd yr ARGLWYDD fi'n llym, ond ni roddodd fi yn nwylo marwolaeth. |
|
| 19 |
|
| Agorwch byrth cyfiawnder i mi; dof finnau i mewn a diolch i'r ARGLWYDD. |
|
| 20 |
|
| Dyma borth yr ARGLWYDD; y cyfiawn a ddaw i mewn drwyddo. |
|
| 21 |
|
| Diolchaf i ti am fy ngwrando a dod yn waredigaeth i mi. |
|
| 22 |
|
| Y maen a wrthododd yr adeiladwyr a ddaeth yn brif gonglfaen. |
|
| 23 |
|
| Gwaith yr ARGLWYDD yw hyn, ac y mae'n rhyfeddod yn ein golwg. |
|
| 24 |
|
| Dyma'r dydd y gweithredodd yr ARGLWYDD; gorfoleddwn a llawenhawn ynddo. |
|
| 25 |
|
| Yr ydym yn erfyn, ARGLWYDD, achub ni; yr ydym yn erfyn, ARGLWYDD, rho lwyddiant. |
|
| 26 |
|
| Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r ARGLWYDD. Bendithiwn chwi o du375?'r ARGLWYDD. |
|
| 27 |
|
| Yr ARGLWYDD sydd Dduw, rhoes oleuni i mi. changau ymunwch yn yr orymdaith hyd at gyrn yr allor. |
|
| 28 |
|
| Ti yw fy Nuw, a rhoddaf ddiolch i ti; fy Nuw, fe'th ddyrchafaf di. |
|
| 29 |
|
| Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw, ac y mae ei gariad hyd byth. |
|
|
|
|