×

Beibl William Morgan 1955

Salmau 118

1
Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.
2
Dyweded Israel yr awr hon, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
3
Dyweded tŷ Aaron yn awr, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
4
Yn awr dyweded y rhai a ofnant yr ARGLWYDD, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
5
Mewn ing y gelwais ar yr ARGLWYDD; yr ARGLWYDD a'm clybu, ac a'm gosododd mewn ehangder.
6
Yr ARGLWYDD sydd gyda mi, nid ofnaf: beth a wna dyn i mi?
7
Yr ARGLWYDD sydd gyda mi ymhlith fy nghynorthwywyr: am hynny y caf weled fy ewyllys ar fy nghaseion.
8
Gwell yw gobeithio yn yr ARGLWYDD, nag ymddiried mewn dyn.
9
Gwell yw gobeithio yn yr ARGLWYDD, nag ymddiried mewn tywysogion.
10
Yr holl genhedloedd a'm hamgylchynasant: ond yn enw yr ARGLWYDD mi a'u torraf hwynt ymaith.
11
Amgylchynasant fi; ie, amgylchynasant fi: ond yn enw yr ARGLWYDD mi a'u torraf hwynt ymaith.
12
Amgylchynasant fi fel gwenyn; diffoddasant fel tân drain: oherwydd yn enw yr ARGLWYDD mi a'u torraf hwynt ymaith.
13
Gan wthio y gwthiaist fi, fel y syrthiwn: ond yr ARGLWYDD a'm cynorthwyodd.
14
Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm cân; ac sydd iachawdwriaeth i mi.
15
Llef gorfoledd a iachawdwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn: deheulaw yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur grymuster.
16
Deheulaw yr ARGLWYDD a ddyrchafwyd: deheulaw yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur grymuster.
17
Ni byddaf farw, ond byw; a mynegaf weithredoedd yr ARGLWYDD.
18
Gan gosbi y'm cosbodd yr ARGLWYDD: ond ni'm rhoddodd i farwolaeth.
19
Agorwch i mi byrth cyfiawnder: af i mewn iddynt, a chlodforaf yr ARGLWYDD.
20
Dyma borth yr ARGLWYDD; y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo.
21
Clodforaf di; oherwydd i ti fy ngwrando, a'th fod yn iachawdwriaeth i mi.
22
Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, a aeth yn ben i'r gongl.
23
O'r ARGLWYDD y daeth hyn; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni.
24
Dyma y dydd a wnaeth yr ARGLWYDD; gorfoleddwn a llawenychwn ynddo.
25
Atolwg, ARGLWYDD, achub yn awr: atolwg, ARGLWYDD pâr yn awr lwyddiant.
26
Bendigedig yw a ddêl yn enw yr ARGLWYDD: bendithiasom chwi o dŷ yr ARGLWYDD.
27
DUW yw yr ARGLWYDD, yr hwn a lewyrchodd i ni: rhwymwch yr aberth â rhaffau, hyd wrth gyrn yr allor.
28
Fy NUW ydwyt ti, a mi a'th glodforaf: dyrchafaf di, fy NUW.
29
Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd yn dragywydd y pery ei drugaredd ef.
Welsh Bible 1955
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor. The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible 1955 British and Foreign Bible Society
:
Cadw Nodiadau