|
| 1 |
|
| Gwyn eu byd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai sy'n rhodio yng nghyfraith yr ARGLWYDD. |
|
| 2 |
|
| Gwyn eu byd y rhai sy'n cadw ei farnedigaethau, ac yn ei geisio ef 'u holl galon, |
|
| 3 |
|
| y rhai nad ydynt wedi gwneud unrhyw ddrwg, ond sy'n rhodio yn ei ffyrdd ef. |
|
| 4 |
|
| Yr wyt ti wedi gwneud dy ofynion yn ddeddfau i'w cadw'n ddyfal. |
|
| 5 |
|
| O na allwn gerdded yn unionsyth a chadw dy ddeddfau! |
|
| 6 |
|
| Yna ni'm cywilyddir os cadwaf fy llygaid ar dy holl orchmynion. |
|
| 7 |
|
| Fe'th glodforaf di chalon gywir wrth imi ddysgu am dy farnau cyfiawn. |
|
| 8 |
|
| Fe gadwaf dy ddeddfau; paid 'm gadael yn llwyr. |
|
| 9 |
|
| Sut y ceidw'r ifanc ei lwybr yn ln? Trwy gadw dy air di. |
|
| 10 |
|
| Fe'th geisiais di 'm holl galon; paid gadael imi wyro oddi wrth dy orchmynion. |
|
| 11 |
|
| Trysorais dy eiriau yn fy nghalon rhag imi bechu yn dy erbyn. |
|
| 12 |
|
| Bendigedig wyt ti, O ARGLWYDD; dysg i mi dy ddeddfau. |
|
| 13 |
|
| Bm yn ailadrodd 'm gwefusau holl farnau dy enau. |
|
| 14 |
|
| Ar hyd ffordd dy farnedigaethau cefais lawenydd sydd uwchlaw pob cyfoeth. |
|
| 15 |
|
| Byddaf yn myfyrio ar dy ofynion di, ac yn cadw dy lwybrau o flaen fy llygaid. |
|
| 16 |
|
| Byddaf yn ymhyfrydu yn dy ddeddfau, ac nid anghofiaf dy air. |
|
| 17 |
|
| Bydd dda wrth dy was; gad imi fyw, ac fe gadwaf dy air. |
|
| 18 |
|
| Agor fy llygaid imi weld rhyfeddodau dy gyfraith. |
|
| 19 |
|
| Ymdeithydd wyf fi ar y ddaear; paid chuddio dy orchmynion oddi wrthyf. |
|
| 20 |
|
| Y mae fy nghalon yn dihoeni o hiraeth am dy farnau di bob amser. |
|
| 21 |
|
| Fe geryddaist y trahaus, y rhai melltigedig sy'n gwyro oddi wrth dy orchmynion. |
|
| 22 |
|
| Tyn ymaith oddi wrthyf eu gwaradwydd a'u sarhad, oherwydd bm ufudd i'th farnedigaethau. |
|
| 23 |
|
| Er i dywysogion eistedd mewn cynllwyn yn f'erbyn, bydd dy was yn myfyrio ar dy ddeddfau; |
|
| 24 |
|
| y mae dy farnedigaethau'n hyfrydwch i mi, a hefyd yn gynghorwyr imi. |
|
| 25 |
|
| Y mae fy enaid yn glynu wrth y llwch; adfywia fi yn l dy air. |
|
| 26 |
|
| Adroddais am fy hynt ac atebaist fi; dysg i mi dy ddeddfau. |
|
| 27 |
|
| Gwna imi ddeall ffordd dy ofynion, ac fe fyfyriaf ar dy ryfeddodau. |
|
| 28 |
|
| Y mae fy enaid yn anniddig gan ofid, cryfha fi yn l dy air. |
|
| 29 |
|
| Gosod ffordd twyll ymhell oddi wrthyf, a rho imi ras dy gyfraith. |
|
| 30 |
|
| Dewisais ffordd ffyddlondeb, a gosod dy farnau o'm blaen. |
|
| 31 |
|
| Glynais wrth dy farnedigaethau. O ARGLWYDD, paid 'm cywilyddio. |
|
| 32 |
|
| Dilynaf ffordd dy orchmynion, oherwydd ehangaist fy neall. |
|
| 33 |
|
| O ARGLWYDD, dysg fi yn ffordd dy ddeddfau, ac o'i chadw fe gaf wobr. |
|
| 34 |
|
| Rho imi ddeall, er mwyn imi ufuddhau i'th gyfraith a'i chadw 'm holl galon; |
|
| 35 |
|
| gwna imi gerdded yn llwybr dy orchmynion, oherwydd yr wyf yn ymhyfrydu ynddo. |
|
| 36 |
|
| Tro fy nghalon at dy farnedigaethau yn hytrach nag at elw; |
|
| 37 |
|
| tro ymaith fy llygaid rhag gweld gwagedd; adfywia fi 'th air. |
|
| 38 |
|
| Cyflawna i'th was yr addewid a roddaist i'r rhai sy'n dy ofni. |
|
| 39 |
|
| Tro ymaith y gwaradwydd yr wyf yn ei ofni, oherwydd y mae dy farnau'n dda. |
|
| 40 |
|
| Yr wyf yn dyheu am dy ofynion; adfywia fi 'th gyfiawnder. |
|
| 41 |
|
| Pr i'th gariad ddod ataf, O ARGLWYDD, a'th iachawdwriaeth yn l dy addewid; |
|
| 42 |
|
| yna rhoddaf ateb i'r rhai sy'n fy ngwatwar, oherwydd ymddiriedais yn dy air. |
|
| 43 |
|
| Paid chymryd gair y gwirionedd o'm genau, oherwydd fe obeithiais yn dy farnau. |
|
| 44 |
|
| Cadwaf dy gyfraith bob amser, hyd byth bythoedd. |
|
| 45 |
|
| Rhodiaf oddi amgylch yn rhydd, oherwydd ceisiais dy ofynion. |
|
| 46 |
|
| Siaradaf am dy farnedigaethau gerbron brenhinoedd, ac ni fydd arnaf gywilydd; |
|
| 47 |
|
| ymhyfrydaf yn dy orchmynion am fy mod yn eu caru. |
|
| 48 |
|
| Parchaf dy orchmynion am fy mod yn eu caru, a myfyriaf ar dy ddeddfau. |
|
| 49 |
|
| Cofia dy air i'th was, y gair y gwnaethost imi ymddiried ynddo. |
|
| 50 |
|
| Hyn fu fy nghysur mewn adfyd, fod dy addewid di yn fy adfywio. |
|
| 51 |
|
| Y mae'r trahaus yn fy ngwawdio o hyd, ond ni throis oddi wrth dy gyfraith. |
|
| 52 |
|
| Yr wyf yn cofio dy farnau erioed, ac yn cael cysur ynddynt, O ARGLWYDD. |
|
| 53 |
|
| Cydia digofaint ynof oherwydd y rhai drygionus sy'n gwrthod dy gyfraith. |
|
| 54 |
|
| Daeth dy ddeddfau'n gn i mi ymhle bynnag y bm yn byw. |
|
| 55 |
|
| Yr wyf yn cofio dy enw yn y nos, O ARGLWYDD, ac fe gadwaf dy gyfraith. |
|
| 56 |
|
| Hyn sydd wir amdanaf, imi ufuddhau i'th ofynion. |
|
| 57 |
|
| Ti yw fy rhan, O ARGLWYDD; addewais gadw dy air. |
|
| 58 |
|
| Yr wyf yn erfyn arnat 'm holl galon, bydd drugarog wrthyf yn l dy addewid. |
|
| 59 |
|
| Pan feddyliaf am fy ffyrdd, trof fy nghamre'n l at dy farnedigaethau; |
|
| 60 |
|
| brysiaf, heb oedi, i gadw dy orchmynion. |
|
| 61 |
|
| Er i glymau'r drygionus dynhau amdanaf, eto nid anghofiais dy gyfraith. |
|
| 62 |
|
| Codaf ganol nos i'th foliannu di am dy farnau cyfiawn. |
|
| 63 |
|
| Yr wyf yn gymar i bawb sy'n dy ofni, i'r rhai sy'n ufuddhau i'th ofynion. |
|
| 64 |
|
| Y mae'r ddaear, O ARGLWYDD, yn llawn o'th ffyddlondeb; dysg i mi dy ddeddfau. |
|
| 65 |
|
| Gwnaethost ddaioni i'th was, yn unol 'th air, O ARGLWYDD. |
|
| 66 |
|
| Dysg imi ddirnadaeth a gwybodaeth, oherwydd yr wyf yn ymddiried yn dy orchmynion. |
|
| 67 |
|
| Cyn imi gael fy ngheryddu euthum ar gyfeiliorn, ond yn awr yr wyf yn cadw dy air. |
|
| 68 |
|
| Yr wyt ti yn dda, ac yn gwneud daioni; dysg i mi dy ddeddfau. |
|
| 69 |
|
| Y mae'r trahaus yn fy mhardduo chelwydd, ond yr wyf fi'n ufuddhau i'th ofynion 'm holl galon; |
|
| 70 |
|
| y mae eu calon hwy'n drwm gan fraster, ond yr wyf fi'n ymhyfrydu yn dy gyfraith. |
|
| 71 |
|
| Mor dda yw imi gael fy ngheryddu, er mwyn imi gael dysgu dy ddeddfau! |
|
| 72 |
|
| Y mae cyfraith dy enau yn well i mi na miloedd o aur ac arian. |
|
| 73 |
|
| Dy ddwylo di a'm gwnaeth ac a'm lluniodd; rho imi ddeall i ddysgu dy orchmynion. |
|
| 74 |
|
| Pan fydd y rhai sy'n dy ofni yn fy ngweld, fe lawenychant am fy mod yn gobeithio yn dy air. |
|
| 75 |
|
| Gwn, O ARGLWYDD, fod dy farnau'n gyfiawn, ac mai mewn ffyddlondeb yr wyt wedi fy ngheryddu. |
|
| 76 |
|
| Bydded dy gariad yn gysur i mi, yn unol 'th addewid i'th was. |
|
| 77 |
|
| Pr i'th drugaredd ddod ataf, fel y byddaf fyw, oherwydd y mae dy gyfraith yn hyfrydwch i mi. |
|
| 78 |
|
| Cywilyddier y trahaus oherwydd i'w celwydd fy niweidio, ond byddaf fi'n myfyrio ar dy ofynion. |
|
| 79 |
|
| Bydded i'r rhai sy'n dy ofni droi ataf fi, iddynt gael gwybod dy farnedigaethau. |
|
| 80 |
|
| Bydded fy nghalon bob amser yn dy ddeddfau, rhag imi gael fy nghywilyddio. |
|
| 81 |
|
| Y mae fy enaid yn dyheu am dy iachawdwriaeth, ac yn gobeithio yn dy air; |
|
| 82 |
|
| y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy addewid; dywedaf, "Pa bryd y byddi'n fy nghysuro?" |
|
| 83 |
|
| Er imi grebachu fel costrel groen mewn mwg, eto nid anghofiaf dy ddeddfau. |
|
| 84 |
|
| Am ba hyd y disgwyl dy was cyn iti roi barn ar fy erlidwyr? |
|
| 85 |
|
| Y mae gwu375?r trahaus, rhai sy'n anwybyddu dy gyfraith, wedi cloddio pwll ar fy nghyfer. |
|
| 86 |
|
| Y mae dy holl orchmynion yn sicr; pan fyddant yn fy erlid chelwydd, cynorthwya fi. |
|
| 87 |
|
| Bu ond y dim iddynt fy nifetha oddi ar y ddaear, ond eto ni throis fy nghefn ar dy ofynion. |
|
| 88 |
|
| Yn l dy gariad adfywia fi, ac fe gadwaf farnedigaethau dy enau. |
|
| 89 |
|
| Y mae dy air, O ARGLWYDD, yn dragwyddol, wedi ei osod yn sefydlog yn y nefoedd. |
|
| 90 |
|
| Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth; seiliaist y ddaear, ac y mae'n sefyll. |
|
| 91 |
|
| Yn l dy ordeiniadau y maent yn sefyll hyd heddiw, oherwydd gweision i ti yw'r cyfan. |
|
| 92 |
|
| Oni bai i'th gyfraith fod yn hyfrydwch i mi, byddai wedi darfod amdanaf yn fy adfyd; |
|
| 93 |
|
| nid anghofiaf dy ofynion hyd byth, oherwydd trwyddynt hwy adfywiaist fi. |
|
| 94 |
|
| Eiddot ti ydwyf; gwareda fi, oherwydd ceisiais dy ofynion. |
|
| 95 |
|
| Y mae'r drygionus yn gwylio amdanaf i'm dinistrio, ond fe ystyriaf fi dy farnedigaethau. |
|
| 96 |
|
| Gwelaf fod popeth yn dod i ben, ond nid oes terfyn i'th orchymyn di. |
|
| 97 |
|
| O fel yr wyf yn caru dy gyfraith! Hi yw fy myfyrdod drwy'r dydd. |
|
| 98 |
|
| Y mae dy orchymyn yn fy ngwneud yn ddoethach na'm gelynion, oherwydd y mae gyda mi bob amser. |
|
| 99 |
|
| Yr wyf yn fwy deallus na'm holl athrawon, oherwydd bod dy farnedigaethau'n fyfyrdod i mi. |
|
| 100 |
|
| Yr wyf yn deall yn well na'r rhai hen, oherwydd imi ufuddhau i'th ofynion. |
|
| 101 |
|
| Cedwais fy nhraed rhag pob llwybr drwg, er mwyn imi gadw dy air. |
|
| 102 |
|
| Nid wyf wedi troi oddi wrth dy farnau, oherwydd ti fu'n fy nghyfarwyddo. |
|
| 103 |
|
| Mor felys yw dy addewid i'm genau, melysach na ml i'm gwefusau. |
|
| 104 |
|
| O'th ofynion di y caf ddeall; dyna pam yr wyf yn casu llwybrau twyll. |
|
| 105 |
|
| Y mae dy air yn llusern i'm troed, ac yn oleuni i'm llwybr. |
|
| 106 |
|
| Tyngais lw, a gwneud adduned i gadw dy farnau cyfiawn. |
|
| 107 |
|
| Yr wyf mewn gofid mawr; O ARGLWYDD, adfywia fi yn l dy air. |
|
| 108 |
|
| Derbyn deyrnged fy ngenau, O ARGLWYDD, a dysg i mi dy farnedigaethau. |
|
| 109 |
|
| Bob dydd y mae fy mywyd yn fy nwylo, ond nid wyf yn anghofio dy gyfraith. |
|
| 110 |
|
| Gosododd y drygionus rwyd i mi, ond nid wyf wedi gwyro oddi wrth dy ofynion. |
|
| 111 |
|
| Y mae dy farnedigaethau yn etifeddiaeth imi am byth, oherwydd y maent yn llonder i'm calon. |
|
| 112 |
|
| Yr wyf wedi gosod fy mryd ar ufuddhau i'th ddeddfau; y mae eu gwobr yn dragwyddol. |
|
| 113 |
|
| Yr wyf yn casu rhai anwadal, ond yn caru dy gyfraith. |
|
| 114 |
|
| Ti yw fy lloches a'm tarian; yr wyf yn gobeithio yn dy air. |
|
| 115 |
|
| Trowch ymaith oddi wrthyf, chwi rai drwg, er mwyn imi gadw gorchmynion fy Nuw. |
|
| 116 |
|
| Cynnal fi yn l dy addewid, fel y byddaf fyw, ac na chywilyddier fi yn fy hyder. |
|
| 117 |
|
| Dal fi i fyny, fel y caf waredigaeth, imi barchu dy ddeddfau yn wastad. |
|
| 118 |
|
| Yr wyt yn gwrthod pawb sy'n gwyro oddi wrth dy ddeddfau, oherwydd mae eu twyll yn ofer. |
|
| 119 |
|
| Yn sothach yr ystyri holl rai drygionus y ddaear; am hynny yr wyf yn caru dy farnedigaethau. |
|
| 120 |
|
| Y mae fy nghnawd yn crynu gan dy arswyd, ac yr wyf yn ofni dy farnau. |
|
| 121 |
|
| Gwneuthum farn a chyfiawnder; paid 'm gadael i'm gorthrymwyr. |
|
| 122 |
|
| Bydd yn feichiau er lles dy was; paid gadael i'r trahaus fy ngorthrymu. |
|
| 123 |
|
| Y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy iachawdwriaeth, ac am dy addewid o fuddugoliaeth. |
|
| 124 |
|
| Gwna 'th was yn l dy gariad, a dysg i mi dy ddeddfau. |
|
| 125 |
|
| Dy was wyf fi; rho imi ddeall i wybod dy farnedigaethau. |
|
| 126 |
|
| Y mae'n amser i'r ARGLWYDD weithredu, oherwydd torrwyd dy gyfraith. |
|
| 127 |
|
| Er hynny yr wyf yn caru dy orchmynion yn fwy nag aur, nag aur coeth. |
|
| 128 |
|
| Am hyn cerddaf yn union yn l dy holl ofynion, a chasf lwybrau twyll. |
|
| 129 |
|
| Y mae dy farnedigaethau'n rhyfeddol; am hynny yr wyf yn eu cadw. |
|
| 130 |
|
| Pan ddatguddir dy air, bydd yn goleuo ac yn rhoi deall i'r syml. |
|
| 131 |
|
| Yr wyf yn agor fy ngheg mewn blys, oherwydd yr wyf yn dyheu am dy orchmynion. |
|
| 132 |
|
| Tro ataf a bydd drugarog, yn l dy arfer i'r rhai sy'n caru dy enw. |
|
| 133 |
|
| Cadw fy ngham yn sicr fel yr addewaist, a phaid gadael i ddrygioni fy meistroli. |
|
| 134 |
|
| Rhyddha fi oddi wrth ormes dynol, er mwyn imi ufuddhau i'th ofynion di. |
|
| 135 |
|
| Bydded llewyrch dy wyneb ar dy was, a dysg i mi dy ddeddfau. |
|
| 136 |
|
| Y mae fy llygaid yn ffrydio dagrau am nad yw pobl yn cadw dy gyfraith. |
|
| 137 |
|
| Cyfiawn wyt ti, O ARGLWYDD, a chywir yw dy farnau. |
|
| 138 |
|
| Y mae'r barnedigaethau a roddi yn gyfiawn ac yn gwbl ffyddlon. |
|
| 139 |
|
| Y mae fy nghynddaredd yn fy ysu am fod fy ngelynion yn anghofio dy eiriau. |
|
| 140 |
|
| Y mae dy addewid wedi ei phrofi'n llwyr, ac y mae dy was yn ei charu. |
|
| 141 |
|
| Er fy mod i yn fychan ac yn ddinod, nid wyf yn anghofio dy ofynion. |
|
| 142 |
|
| Y mae dy gyfiawnder di yn gyfiawnder tragwyddol, ac y mae dy gyfraith yn wirionedd. |
|
| 143 |
|
| Daeth cyfyngder a gofid ar fy ngwarthaf, ond yr wyf yn ymhyfrydu yn dy orchmynion. |
|
| 144 |
|
| Y mae dy farnedigaethau di'n gyfiawn byth; rho imi ddeall, fel y byddaf fyw. |
|
| 145 |
|
| Gwaeddaf 'm holl galon; ateb fi, ARGLWYDD, ac fe fyddaf ufudd i'th ddeddfau. |
|
| 146 |
|
| Gwaeddaf arnat ti; gwareda fi, ac fe gadwaf dy farnedigaethau. |
|
| 147 |
|
| Codaf cyn y wawr a gofyn am gymorth, a gobeithiaf yn dy eiriau. |
|
| 148 |
|
| Y mae fy llygaid yn effro yng ngwyliadwriaethau'r nos, i fyfyrio ar dy addewid. |
|
| 149 |
|
| Gwrando fy llef yn l dy gariad; O ARGLWYDD, yn l dy farnau adfywia fi. |
|
| 150 |
|
| Y mae fy erlidwyr dichellgar yn agosu, ond y maent yn bell oddi wrth dy gyfraith. |
|
| 151 |
|
| Yr wyt ti yn agos, O ARGLWYDD, ac y mae dy holl orchmynion yn wirionedd. |
|
| 152 |
|
| Gwn erioed am dy farnedigaethau, i ti eu sefydlu am byth. |
|
| 153 |
|
| Edrych ar fy adfyd a gwared fi, oherwydd nid anghofiais dy gyfraith. |
|
| 154 |
|
| Amddiffyn fy achos ac achub fi; adfywia fi yn l dy addewid. |
|
| 155 |
|
| Y mae iachawdwriaeth ymhell oddi wrth y drygionus, oherwydd nid ydynt yn ceisio dy ddeddfau. |
|
| 156 |
|
| Mawr yw dy drugaredd, O ARGLWYDD; adfywia fi yn l dy farn. |
|
| 157 |
|
| Y mae fy erlidwyr a'm gelynion yn niferus, ond eto ni wyrais oddi wrth dy farnedigaethau. |
|
| 158 |
|
| Gwelais y rhai twyllodrus, a ffieiddiais am nad ydynt yn cadw dy air. |
|
| 159 |
|
| Gwl fel yr wyf yn caru dy ofynion; O ARGLWYDD, adfywia fi yn l dy gariad. |
|
| 160 |
|
| Hanfod dy air yw gwirionedd, ac y mae dy holl farnau cyfiawn yn dragwyddol. |
|
| 161 |
|
| Y mae tywysogion yn fy erlid yn ddiachos, ond dy air di yw arswyd fy nghalon. |
|
| 162 |
|
| Yr wyf yn llawenhau o achos dy addewid, fel un sy'n cael ysbail fawr. |
|
| 163 |
|
| Yr wyf yn casu ac yn ffieiddio twyll, ond yn caru dy gyfraith di. |
|
| 164 |
|
| Seithwaith y dydd yr wyf yn dy foli oherwydd dy farnau cyfiawn. |
|
| 165 |
|
| Caiff y rhai sy'n caru dy gyfraith wir heddwch, ac nid oes dim yn peri iddynt faglu. |
|
| 166 |
|
| Yr wyf yn disgwyl am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD, ac yn ufuddhau i'th orchmynion. |
|
| 167 |
|
| Yr wyf yn cadw dy farnedigaethau ac yn eu caru'n fawr. |
|
| 168 |
|
| Yr wyf yn ufudd i'th ofynion a'th farnedigaethau, oherwydd y mae fy holl ffyrdd o'th flaen. |
|
| 169 |
|
| Doed fy llef atat, O ARGLWYDD; rho imi ddeall yn l dy air. |
|
| 170 |
|
| Doed fy neisyfiad atat; gwared fi yn l dy addewid. |
|
| 171 |
|
| Bydd fy ngwefusau'n tywallt moliant am iti ddysgu i mi dy ddeddfau. |
|
| 172 |
|
| Bydd fy nhafod yn canu am dy addewid, oherwydd y mae dy holl orchmynion yn gyfiawn. |
|
| 173 |
|
| Bydded dy law yn barod i'm cynorthwyo, oherwydd yr wyf wedi dewis dy ofynion. |
|
| 174 |
|
| Yr wyf yn dyheu am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD, ac yn ymhyfrydu yn dy gyfraith. |
|
| 175 |
|
| Gad imi fyw i'th foliannu di, a bydded i'th farnau fy nghynorthwyo. |
|
| 176 |
|
| Euthum ar gyfeiliorn fel dafad ar goll; chwilia am dy was, oherwydd nid anghofiais dy orchmynion. |
|
|
|
|