Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Seminith. Salm. I Ddafydd.0 Arbed, O ARGLWYDD; oherwydd nid oes un teyrngar ar l, a darfu am y ffyddloniaid o blith pobl. |
| 2 |
| Y mae pob un yn dweud celwydd wrth ei gymydog, y maent yn gwenieithio wrth siarad 'i gilydd. |
| 3 |
| Bydded i'r ARGLWYDD dorri ymaith bob gwefus wenieithus a'r tafod sy'n siarad yn ymffrostgar, |
| 4 |
| y rhai sy'n dweud, "Yn ein tafod y mae ein nerth; y mae ein gwefusau o'n tu; pwy sy'n feistr arnom?" |
| 5 |
| "Oherwydd anrhaith yr anghenus a chri'r tlawd, codaf yn awr," meddai'r ARGLWYDD, "rhoddaf iddo'r diogelwch yr hiraetha amdano." |
| 6 |
| Y mae geiriau'r ARGLWYDD yn eiriau pur: arian wedi ei goethi mewn ffwrnais, aur wedi ei buro seithwaith. |
| 7 |
| Tithau, ARGLWYDD, cadw ni, gwared ni am byth oddi wrth y genhedlaeth hon, |
| 8 |
| am fod y drygionus yn prowla ar bob llaw, a llygredd yn uchaf ymysg pobl. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/012.mp3
150
12