Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| I'r arweinydd cerdd: Ar yr wythfed. Salm Dafydd. [1] Help, ARGLWYDD! Does neb ffyddlon ar ôl! Mae'r rhai sy'n driw wedi diflannu. |
| 2 |
| Mae pawb yn dweud celwydd wrth ei gilydd; maen nhw'n seboni ond yn ddauwynebog. |
| 3 |
| Boed i'r ARGLWYDD roi stop ar eu geiriau ffals, a rhoi taw ar bob tafod sy'n brolio! |
| 4 |
| “Gallwn wneud unrhyw beth!” medden nhw. “Gallwn ddweud beth leiciwn ni! Dŷn ni'n atebol i neb!” |
| 5 |
| Ond meddai'r ARGLWYDD: “Am fod yr anghenus yn dioddef trais, a'r tlawd yn griddfan mewn poen, dw i'n mynd i weithredu. Bydda i'n ei gadw'n saff; ie, dyna mae'n dyheu amdano.” |
| 6 |
| Mae geiriau'r ARGLWYDD yn wir. Maen nhw fel arian wedi ei buro mewn ffwrnais bridd, neu aur wedi ei goethi'n drwyadl. |
| 7 |
| Byddi'n gofalu amdanon ni, ARGLWYDD, Byddwn ni'n saff o afael y genhedlaeth ddrwg yma |
| 8 |
| sy'n cerdded o gwmpas yn falch, a phobl yn canmol y pethau ofnadwy maen nhw'n eu gwneud! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/012.mp3
150
12