×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 120

1
1 Cn Esgyniad.0 Cn Esgyniad. Gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder, ac atebodd fi.
2
"O ARGLWYDD, gwared fi rhag genau twyllodrus, a rhag tafod enllibus."
3
Beth a roddir i ti, a beth yn ychwaneg a wneir, O dafod enllibus?
4
Saethau llymion rhyfelwr, a marwor eirias!
5
Gwae fi fy mod yn ymdeithio yn Mesech, ac yn byw ymysg pebyll Cedar.
6
Yn rhy hir y bm yn byw gyda'r rhai sy'n casu heddwch.
7
Yr wyf fi am heddwch, ond pan soniaf am hynny, y maent hwy am ryfel.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau