×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 121

1
1 Cn Esgyniad.0 Codaf fy llygaid tua'r mynyddoedd; o ble y daw cymorth i mi?
2
Daw fy nghymorth oddi wrth yr ARGLWYDD, creawdwr nefoedd a daear.
3
Nid yw'n gadael i'th droed lithro, ac nid yw dy geidwad yn cysgu.
4
Nid yw ceidwad Israel yn cysgu nac yn huno.
5
Yr ARGLWYDD yw dy geidwad, yr ARGLWYDD yw dy gysgod ar dy ddeheulaw;
6
ni fydd yr haul yn dy daro yn y dydd, na'r lleuad yn y nos.
7
Bydd yr ARGLWYDD yn dy gadw rhag pob drwg, bydd yn cadw dy einioes.
8
Bydd yr ARGLWYDD yn gwylio dy fynd a'th ddod yn awr a hyd byth.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau