Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| Caniad y graddau. [1] Dyrchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd, o'r lle y daw fy nghymorth. |
| 2 |
| Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear. |
| 3 |
| Ni ad efe i'th droed lithro: ac ni huna dy geidwad. |
| 4 |
| Wele, ni huna ac ni chwsg ceidwad Israel. |
| 5 |
| Yr ARGLWYDD yw dy geidwad: yr ARGLWYDD yw dy gysgod ar dy ddeheulaw. |
| 6 |
| Ni'th dery yr haul y dydd, na'r lleuad y nos. |
| 7 |
| Yr ARGLWYDD a'th geidw rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid. |
| 8 |
| Yr ARGLWYDD a geidw dy fynediad a'th ddyfodiad, o'r pryd hwn hyd yn dragywydd. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/psalms/121.mp3
150
121