Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| Caniad y graddau, o'r eiddo Dafydd. [1] Llawenychais pan ddywedent wrthyf, Awn i dŷ yr ARGLWYDD. |
| 2 |
| Ein traed a safant o fewn dy byrth di, O Jerwsalem. |
| 3 |
| Jerwsalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chydgysylltu ynddi ei hun. |
| 4 |
| Yno yr esgyn y llwythau, llwythau yr ARGLWYDD, yn dystiolaeth i Israel, i foliannu enw yr ARGLWYDD. |
| 5 |
| Canys yno y gosodwyd gorseddfeinciau barn, gorseddfeinciau tŷ Dafydd. |
| 6 |
| Dymunwch heddwch Jerwsalem: llwydded y rhai a'th hoffant. |
| 7 |
| Heddwch fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau. |
| 8 |
| Er mwyn fy mrodyr a'm cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti. |
| 9 |
| Er mwyn tŷ yr ARGLWYDD ein DUW, y ceisiaf i ti ddaioni. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/psalms/122.mp3
150
122