×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 123

1
1 Cn Esgyniad.0 Yr wyf yn codi fy llygaid atat ti sy'n eistedd yn y nefoedd.
2
Fel y mae llygaid gweision yn gwylio llaw eu meistr, a llygaid caethferch yn gwylio llaw ei meistres, felly y mae ein llygaid ninnau yn gwylio'r ARGLWYDD ein Duw nes iddo drugarhau wrthym.
3
Bydd drugarog wrthym, O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthym, oherwydd fe gawsom ddigon o sarhad.
4
Yn rhy hir y cawsom ddigon ar wawd y trahaus ac ar sarhad y beilchion.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau