×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 124

1
Cân yr orymdaith. Salm Dafydd. [1] Oni bai fod yr ARGLWYDD ar ein hochr ni — gall Israel ddweud yn glir —
2
Oni bai fod yr ARGLWYDD ar ein hochr ni pan oedd dynion yn ymosod arnon ni,
3
bydden nhw wedi'n llyncu ni'n fyw. Roedden nhw mor ffyrnig yn ein herbyn!
4
Bydden ni wedi'n llethu'n llwyr gan y dyfroedd ac wedi boddi yn y llifogydd!
5
Byddai rhuthr y dŵr wedi'n llethu.
6
Bendith ar yr ARGLWYDD! Wnaeth e ddim gadael i'w dannedd ein rhwygo ni.
7
Dŷn ni fel aderyn wedi dianc o drap yr heliwr; torrodd y trap a dyma ni'n llwyddo i ddianc.
8
Yr ARGLWYDD wnaeth ein helpu — Crëwr y nefoedd a'r ddaear.
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau