Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 Cn Esgyniad.0 Y mae'r rhai sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD fel Mynydd Seion, na ellir ei symud, ond sy'n aros hyd byth. |
| 2 |
| Fel y mae'r mynyddoedd o amgylch Jerwsalem, felly y mae'r ARGLWYDD o amgylch ei bobl yn awr a hyd byth. |
| 3 |
| Ni chaiff teyrnwialen y drygionus orffwys ar y tir sy'n rhan i'r rhai cyfiawn, rhag i'r cyfiawn estyn eu llaw at anghyfiawnder. |
| 4 |
| Gwna ddaioni, O ARGLWYDD, i'r rhai da ac i'r rhai uniawn o galon. |
| 5 |
| Ond am y rhai sy'n gwyro i'w ffyrdd troellog, bydded i'r ARGLWYDD eu dinistrio gyda'r gwneuthurwyr drygioni. Bydded heddwch ar Israel! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/125.mp3
150
125