×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 125

1
Cân yr orymdaith. [1] Mae'r rhai sy'n trystio'r ARGLWYDD fel Mynydd Seion — does dim posib ei symud, mae yna bob amser.
2
Fel mae Jerwsalem gyda bryniau o'i chwmpas, mae'r ARGLWYDD yn cofleidio ei bobl o hyn allan ac am byth.
3
Fydd teyrnwialen drygioni ddim yn cael aros ar y tir sydd wedi ei roi i'r rhai cyfiawn, rhag i'r rhai cyfiawn droi at ddrygioni.
4
Bydd yn dda, O ARGLWYDD, at y rhai da, sef y rhai hynny sy'n byw yn iawn.
5
Ond am y bobl sy'n dilyn eu ffyrdd troëdig — boed i'r ARGLWYDD eu symud nhw o'r ffordd gyda'r rhai sy'n gwneud drwg. Heddwch i Israel!
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau