×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 126

1
1 Cn Esgyniad.0 Pan adferodd yr ARGLWYDD lwyddiant Seion, yr oeddem fel rhai wedi cael iachd;
2
yr oedd ein genau yn llawn chwerthin a'n tafodau yn bloeddio canu. Yna fe ddywedid ymysg y cenhedloedd, "Gwnaeth yr ARGLWYDD bethau mawr iddynt hwy."
3
Yn wir, gwnaeth yr ARGLWYDD bethau mawr i ni, a bu i ninnau lawenhau.
4
O ARGLWYDD, adfer ein llwyddiant fel ffrydiau yn y Negef;
5
bydded i'r rhai sy'n hau mewn dagrau fedi mewn gorfoledd.
6
Bydd yr un sy'n mynd allan dan wylo, ac yn cario ei sach o hadyd, yn dychwelyd drachefn mewn gorfoledd, ac yn cario ei ysgubau.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau