×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 126

1
Cân yr orymdaith. [1] Ar ôl i'r ARGLWYDD roi llwyddiant i Seion eto, roedden ni fel rhai yn breuddwydio —
2
roedden ni'n chwerthin yn uchel, ac yn canu'n llon. Roedd pobl y cenhedloedd yn dweud: “Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud pethau mawr iddyn nhw!”
3
Ydy, mae'r ARGLWYDD wedi gwneud pethau mawr i ni. Dŷn ni mor hapus!
4
O ARGLWYDD, wnei di roi llwyddiant i ni eto, fel pan mae ffrydiau dŵr yn llifo yn anialwch y Negef?
5
Bydd y rhai sy'n wylo wrth hau yn canu'n llawen wrth fedi'r cynhaeaf.
6
Mae'r un sy'n cario ei sach o hadau yn crïo wrth fynd i hau. Ond bydd yr un sy'n cario'r ysgubau yn dod adre dan ganu'n llon!
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau