×

Beibl William Morgan 1955

Salmau 127

1
Caniad y graddau, i Solomon. [1] Os yr ARGLWYDD nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho: os yr ARGLWYDD ni cheidw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwad.
2
Ofer i chwi foregodi, myned yn hwyr i gysgu, bwyta bara gofidiau: felly y rhydd efe hun i'w anwylyd.
3
Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr ARGLWYDD: ei wobr ef yw ffrwyth y groth.
4
Fel y mae saethau yn llaw y cadarn; felly y mae plant ieuenctid.
5
Gwyn ei fyd y gŵr a lanwodd ei gawell saethau â hwynt: nis gwaradwyddir hwy, pan ymddiddanant â'r gelynion yn y porth.
Welsh Bible 1955
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor. The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible 1955 British and Foreign Bible Society
:
Cadw Nodiadau