×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 128

1
1 Cn Esgyniad.0 Gwyn ei fyd pob un sy'n ofni'r ARGLWYDD ac yn rhodio yn ei ffyrdd.
2
Cei fwyta o ffrwyth dy lafur; byddi'n hapus ac yn wyn dy fyd.
3
Bydd dy wraig yng nghanol dy du375? fel gwinwydden ffrwythlon, a'th blant o amgylch dy fwrdd fel blagur olewydd.
4
Wele, fel hyn y bendithir y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD.
5
Bydded i'r ARGLWYDD dy fendithio o Seion, iti gael gweld llwyddiant Jerwsalem holl ddyddiau dy fywyd,
6
ac iti gael gweld plant dy blant. Bydded heddwch ar Israel!
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau