Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Cân yr orymdaith. [1] Mae'r un sy'n parchu'r ARGLWYDD ac yn gwneud beth mae e eisiau, wedi ei fendithio'n fawr. |
| 2 |
| Byddi'n bwyta beth fuost ti'n gweithio mor galed i'w dyfu. Byddi'n cael dy fendithio, a byddi'n llwyddo! |
| 3 |
| Bydd dy wraig fel gwinwydden ffrwythlon yn dy dŷ. Bydd dy feibion o gwmpas dy fwrdd fel blagur ar goeden olewydd. |
| 4 |
| Dyna i ti sut mae'r dyn sy'n parchu'r ARGLWYDD yn cael ei fendithio! |
| 5 |
| Boed i'r ARGLWYDD dy fendithio di o Seion! Cei weld Jerwsalem yn llwyddo am weddill dy fywyd, |
| 6 |
| A byddi'n cael byw i weld dy wyrion. Heddwch i Israel! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/128.mp3
150
128