×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 129

1
Cân yr orymdaith. [1] “Maen nhw wedi ymosod arna i lawer gwaith ers pan oeddwn i'n ifanc,” gall Israel ddweud.
2
“Maen nhw wedi ymosod arna i lawer gwaith ers pan oeddwn i'n ifanc, ond dŷn nhw ddim wedi fy nhrechu i.”
3
Mae dynion wedi aredig ar fy nghefn ac agor cwysi hirion.
4
Ond mae'r ARGLWYDD yn ffyddlon, ac wedi torri'r rhaffau sy'n tynnu aradr y rhai drwg.
5
Gwna i bawb sy'n casáu Seion gael eu cywilyddio a'u gyrru yn ôl!
6
Gwna nhw fel glaswellt ar ben to yn gwywo cyn ei dynnu;
7
dim digon i lenwi dwrn yr un sy'n medi, na breichiau'r un sy'n casglu'r ysgubau!
8
A fydd y rhai sy'n pasio heibio ddim yn dweud, “Bendith yr ARGLWYDD arnoch chi! Bendith arnoch chi yn enw'r ARGLWYDD.”
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau