Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 Am ba hyd, ARGLWYDD, yr anghofi fi'n llwyr? Am ba hyd y cuddi dy wyneb oddi wrthyf? |
| 2 |
| Am ba hyd y dygaf loes yn fy enaid, a gofid yn fy nghalon ddydd ar l dydd? Am ba hyd y bydd fy ngelyn yn drech na mi? |
| 3 |
| Edrych arnaf ac ateb fi, O ARGLWYDD fy Nuw; goleua fy llygaid rhag imi gysgu hun marwolaeth, |
| 4 |
| rhag i'm gelyn ddweud, "Gorchfygais ef", ac i'm gwrthwynebwyr lawenhau pan gwympaf. |
| 5 |
| Ond yr wyf fi'n ymddiried yn dy ffyddlondeb, a chaiff fy nghalon lawenhau yn dy waredigaeth; canaf i'r ARGLWYDD, am iddo fod mor hael wrthyf. |
| 6 |
| {cf2 (13:5)} |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/013.mp3
150
13