Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. [1] Am faint mwy, ARGLWYDD? Wyt ti'n mynd i'm diystyru i am byth? Am faint mwy rwyt ti'n mynd i droi cefn arna i? |
| 2 |
| Am faint mwy mae'n rhaid i mi boeni f'enaid, a dal i ddioddef fel yma bob dydd? Am faint mwy mae'r gelyn i gael y llaw uchaf? |
| 3 |
| Edrych arna i! Ateb fi, O ARGLWYDD, fy Nuw! Adfywia fi, rhag i mi suddo i gwsg marwolaeth; |
| 4 |
| rhag i'r gelyn ddweud, “Dw i wedi ennill!” ac i'r rhai sy'n fy nghasáu ddathlu wrth i mi syrthio. |
| 5 |
| Ond na, dw i'n trystio dy fod ti'n ffyddlon! Bydda i'n gorfoleddu am dy fod wedi f'achub i. Bydda i'n canu mawl i ti, ARGLWYDD, am achub fy ngham. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/013.mp3
150
13