Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 Cn Esgyniad.0 O'r dyfnderau y gwaeddais arnat, O ARGLWYDD. |
| 2 |
| Arglwydd, clyw fy llef; bydded dy glustiau'n agored i lef fy ngweddi. |
| 3 |
| Os wyt ti, ARGLWYDD, yn cadw cyfrif o gamweddau, pwy, O Arglwydd, a all sefyll? |
| 4 |
| Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y cei dy ofni. |
| 5 |
| Disgwyliaf wrth yr ARGLWYDD; y mae fy enaid yn disgwyl, a gobeithiaf yn ei air; |
| 6 |
| y mae fy enaid yn disgwyl wrth yr Arglwydd yn fwy nag y mae'r gwylwyr am y bore, yn fwy nag y mae'r gwylwyr am y bore. |
| 7 |
| O Israel, gobeithia yn yr ARGLWYDD, oherwydd gyda'r ARGLWYDD y mae ffyddlondeb, a chydag ef y mae gwaredigaeth helaeth. |
| 8 |
| Ef sydd yn gwaredu Israel oddi wrth ei holl gamweddau. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/130.mp3
150
130