×

Beibl William Morgan 1955

Salmau 130

1
Caniad y graddau. [1] O'r dyfnder y llefais arnat, O ARGLWYDD.
2
ARGLWYDD, clyw fy llefain; ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddïau.
3
Os creffi ar anwireddau, ARGLWYDD, O ARGLWYDD, pwy a saif?
4
Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y'th ofner.
5
Disgwyliaf am yr ARGLWYDD, disgwyl fy enaid, ac yn ei air ef y gobeithiaf.
6
Fy enaid sydd yn disgwyl am yr ARGLWYDD yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore; yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore.
7
Disgwylied Israel am yr ARGLWYDD; oherwydd y mae trugaredd gyda'r ARGLWYDD, ac aml ymwared gydag ef.
8
Ac efe a wared Israel oddi wrth ei holl anwireddau.
Welsh Bible 1955
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor. The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible 1955 British and Foreign Bible Society
:
Cadw Nodiadau