Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 Cn Esgyniad.0 O ARGLWYDD, cofia am Ddafydd yn ei holl dreialon, |
| 2 |
| fel y bu iddo dyngu i'r ARGLWYDD ac addunedu i Un Cadarn Jacob, |
| 3 |
| "Nid af i mewn i'r babell y trigaf ynddi, nac esgyn i'r gwely y gorffwysaf arno; |
| 4 |
| ni roddaf gwsg i'm llygaid na hun i'm hamrannau, |
| 5 |
| nes imi gael lle i'r ARGLWYDD a thrigfan i Un Cadarn Jacob." |
| 6 |
| Wele, clywsom amdani yn Effrata, a chawsom hi ym meysydd y coed. |
| 7 |
| "Awn i mewn i'w drigfan a phlygwn wrth ei droedfainc. |
| 8 |
| Cyfod, ARGLWYDD, a thyrd i'th orffwysfa, ti ac arch dy nerth. |
| 9 |
| Bydded dy offeiriaid wedi eu gwisgo chyfiawnder, a bydded i'th ffyddloniaid orfoleddu." |
| 10 |
| Er mwyn Dafydd dy was, paid throi oddi wrth wyneb dy eneiniog. |
| 11 |
| Tyngodd yr ARGLWYDD i Ddafydd adduned sicr na thry oddi wrthi: "O ffrwyth dy gorff y gosodaf un ar dy orsedd. |
| 12 |
| Os ceidw dy feibion fy nghyfamod, a'r tystiolaethau a ddysgaf iddynt, bydd eu meibion hwythau hyd byth yn eistedd ar dy orsedd." |
| 13 |
| Oherwydd dewisodd yr ARGLWYDD Seion, a'i chwennych yn drigfan iddo: |
| 14 |
| "Dyma fy ngorffwysfa am byth; yma y trigaf am imi ei dewis. |
| 15 |
| Bendithiaf hi digonedd o ymborth, a digonaf ei thlodion bara. |
| 16 |
| Gwisgaf ei hoffeiriaid ag iachawdwriaeth, a bydd ei ffyddloniaid yn gorfoleddu. |
| 17 |
| Yno y gwnaf i gorn dyfu i Ddafydd; darperais lamp i'm heneiniog. |
| 18 |
| Gwisgaf ei elynion chywilydd, ond ar ei ben ef y bydd coron ddisglair." |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/132.mp3
150
132