|
| 1 |
|
| Molwch yr ARGLWYDD. Molwch enw'r ARGLWYDD, molwch ef, chwi weision yr ARGLWYDD, |
|
| 2 |
|
| sy'n sefyll yn nhu375?'r ARGLWYDD, yng nghynteddoedd ein Duw. |
|
| 3 |
|
| Molwch yr ARGLWYDD, oherwydd da yw ef; canwch i'w enw, oherwydd y mae'n ddymunol. |
|
| 4 |
|
| Dewisodd yr ARGLWYDD Jacob iddo'i hunan, ac Israel yn drysor arbennig iddo. |
|
| 5 |
|
| Oherwydd fe wn i fod yr ARGLWYDD yn fawr, a bod ein Harglwydd ni yn rhagori ar yr holl dduwiau. |
|
| 6 |
|
| Fe wna'r ARGLWYDD beth bynnag a ddymuna, yn y nefoedd ac ar y ddaear, yn y moroedd a'r holl ddyfnderau. |
|
| 7 |
|
| Pr i gymylau godi o derfynau'r ddaear; fe wna fellt ar gyfer y glaw, a daw gwynt allan o'i ystordai. |
|
| 8 |
|
| Fe drawodd rai cyntafanedig yr Aifft, yn ddyn ac anifail; |
|
| 9 |
|
| anfonodd arwyddion a rhybuddion trwy ganol yr Aifft, yn erbyn Pharo a'i holl ddeiliaid. |
|
| 10 |
|
| Fe drawodd genhedloedd mawrion, a lladd brenhinoedd cryfion |
|
| 11 |
|
| Sihon brenin yr Amoriaid, Og brenin Basan, a holl dywysogion Canaan; |
|
| 12 |
|
| rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i'w bobl Israel. |
|
| 13 |
|
| Y mae dy enw, O ARGLWYDD, am byth, a'th enwogrwydd o genhedlaeth i genhedlaeth. |
|
| 14 |
|
| Oherwydd fe rydd yr ARGLWYDD gyfiawnder i'w bobl, a bydd yn trugarhau wrth ei weision. |
|
| 15 |
|
| Arian ac aur yw delwau'r cenhedloedd, ac wedi eu gwneud dwylo dynol. |
|
| 16 |
|
| Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad, a llygaid nad ydynt yn gweld; |
|
| 17 |
|
| y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed, ac nid oes anadl yn eu ffroenau. |
|
| 18 |
|
| Yn mae eu gwneuthurwyr yn mynd yn debyg iddynt, ac felly hefyd bob un sy'n ymddiried ynddynt. |
|
| 19 |
|
| Dylwyth Israel, bendithiwch yr ARGLWYDD; Dylwyth Aaron, bendithiwch yr ARGLWYDD. |
|
| 20 |
|
| Dylwyth Lefi, bendithiwch yr ARGLWYDD; pob un sy'n ofni'r ARGLWYDD, bendithiwch yr ARGLWYDD. |
|
| 21 |
|
| Bendigedig yn Seion fyddo'r ARGLWYDD sydd yn trigo yn Jerwsalem. Molwch yr ARGLWYDD. |
|
|
|
|