|
| 1 |
|
| Haleliwia! Molwch enw'r ARGLWYDD! Addolwch e, chi sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD |
|
| 2 |
|
| ac sy'n sefyll yn nheml yr ARGLWYDD, yn yr iard sydd yn nhŷ Dduw. |
|
| 3 |
|
| Molwch yr ARGLWYDD, am fod yr ARGLWYDD mor dda! Canwch i'w enw, mae'n hyfryd cael gwneud hynny! |
|
| 4 |
|
| Mae'r ARGLWYDD wedi dewis pobl Jacob iddo'i hun, ac Israel fel ei drysor sbesial. |
|
| 5 |
|
| Dw i'n gwybod fod yr ARGLWYDD yn fawr; mae ein Duw ni yn well na'r ‛duwiau‛ eraill i gyd. |
|
| 6 |
|
| Mae'r ARGLWYDD yn gwneud beth bynnag mae e eisiau, yn y nefoedd, ar y ddaear, ac i lawr i waelodion y moroedd dwfn. |
|
| 7 |
|
| Mae e'n gwneud i'r cymylau godi ym mhen draw'r ddaear; mae'n anfon mellt gyda'r glaw, ac yn dod â'r gwynt allan o'i stordai. |
|
| 8 |
|
| Fe wnaeth daro plentyn hynaf pob teulu yn yr Aifft, a'r anifeiliaid cyntafanedig hefyd. |
|
| 9 |
|
| Gwnaeth arwyddion gwyrthiol yn yr Aifft yn erbyn y Pharo a'i weision i gyd; |
|
| 10 |
|
| Concrodd lawer o wledydd a lladd nifer o frenhinoedd — |
|
| 11 |
|
| Sihon, brenin yr Amoriaid, Og, brenin Bashan, a theuluoedd brenhinol Canaan i gyd. |
|
| 12 |
|
| Rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth — yn etifeddiaeth i'w bobl Israel. |
|
| 13 |
|
| O ARGLWYDD, mae dy enw di yn para am byth, ac yn cael ei gofio ar hyd y cenedlaethau. |
|
| 14 |
|
| Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn ei bobl ac yn tosturio wrth ei weision. |
|
| 15 |
|
| Dydy eilunod y cenhedloedd yn ddim byd ond arian ac aur, wedi eu siapio gan ddwylo dynol. |
|
| 16 |
|
| Mae ganddyn nhw gegau, ond allan nhw ddim siarad; llygaid, ond allan nhw ddim gweld; |
|
| 17 |
|
| clustiau, ond allan nhw ddim clywed. Does dim bywyd ynddyn nhw! |
|
| 18 |
|
| Mae'r bobl sy'n eu gwneud nhw, a'r bobl sydd yn eu haddoli hefyd, yn troi'n debyg iddyn nhw! |
|
| 19 |
|
| Bendithiwch yr ARGLWYDD, chi bobl Israel! Bendithiwch yr ARGLWYDD, chi offeiriaid! |
|
| 20 |
|
| Bendithiwch yr ARGLWYDD, chi Lefiaid! Bendithiwch yr ARGLWYDD, chi rai ffyddlon yr ARGLWYDD! |
|
| 21 |
|
| Boed i'r ARGLWYDD, sy'n byw yn Jerwsalem, gael ei fendithio yn Seion! Haleliwia! |
|
|
|
|