|
| 1 |
|
| Diolchwch i'r ARGLWYDD am mai da yw, oherwydd mae ei gariad hyd byth. |
|
| 2 |
|
| Diolchwch i Dduw y duwiau, oherwydd mae ei gariad hyd byth. |
|
| 3 |
|
| Diolchwch i Arglwydd yr arglwyddi, oherwydd mae ei gariad hyd byth. |
|
| 4 |
|
| Y mae'n gwneud rhyfeddodau mawrion ei hunan, oherwydd mae ei gariad hyd byth; |
|
| 5 |
|
| gwnaeth y nefoedd mewn doethineb, oherwydd mae ei gariad hyd byth; |
|
| 6 |
|
| taenodd y ddaear dros y dyfroedd, oherwydd mae ei gariad hyd byth; |
|
| 7 |
|
| gwnaeth oleuadau mawrion, oherwydd mae ei gariad hyd byth; |
|
| 8 |
|
| yr haul i reoli'r dydd, oherwydd mae ei gariad hyd byth, |
|
| 9 |
|
| y lleuad a'r sr i reoli'r nos, oherwydd mae ei gariad hyd byth. |
|
| 10 |
|
| Trawodd rai cyntafanedig yr Aifft, oherwydd mae ei gariad hyd byth, |
|
| 11 |
|
| a daeth ag Israel allan o'u canol, oherwydd mae ei gariad hyd byth; |
|
| 12 |
|
| llaw gref ac braich estynedig, oherwydd mae ei gariad hyd byth. |
|
| 13 |
|
| Holltodd y Mr Coch yn ddau, oherwydd mae ei gariad hyd byth, |
|
| 14 |
|
| a dygodd Israel trwy ei ganol, oherwydd mae ei gariad hyd byth, |
|
| 15 |
|
| ond taflodd Pharo a'i lu i'r Mr Coch, oherwydd mae ei gariad hyd byth. |
|
| 16 |
|
| Arweiniodd ei bobl trwy'r anialwch, oherwydd mae ei gariad hyd byth, |
|
| 17 |
|
| a tharo brenhinoedd mawrion, oherwydd mae ei gariad hyd byth. |
|
| 18 |
|
| Lladdodd frenhinoedd cryfion, oherwydd mae ei gariad hyd byth; |
|
| 19 |
|
| Sihon brenin yr Amoriaid, oherwydd mae ei gariad hyd byth, |
|
| 20 |
|
| Og brenin Basan, oherwydd mae ei gariad hyd byth; |
|
| 21 |
|
| rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth, oherwydd mae ei gariad hyd byth, |
|
| 22 |
|
| yn etifeddiaeth i'w was Israel, oherwydd mae ei gariad hyd byth. |
|
| 23 |
|
| Pan oeddem wedi'n darostwng, fe'n cofiodd, oherwydd mae ei gariad hyd byth, |
|
| 24 |
|
| a'n gwaredu oddi wrth ein gelynion, oherwydd mae ei gariad hyd byth. |
|
| 25 |
|
| Ef sy'n rhoi bwyd i bob creadur, oherwydd mae ei gariad hyd byth. |
|
| 26 |
|
| Diolchwch i Dduw y nefoedd, oherwydd mae ei gariad hyd byth. |
|
|
|
|