|
| 1 |
|
| Diolchwch i'r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni! Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 2 |
|
| Rhowch ddiolch i'r Duw sy'n uwch na'r duwiau i gyd! Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 3 |
|
| Rhowch ddiolch i Arglwydd yr Arglwyddi! Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 4 |
|
| Fe ydy'r unig un sydd wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 5 |
|
| Fe sydd wedi creu y nefoedd drwy ei allu. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 6 |
|
| Fe sydd wedi lledu'r ddaear dros y dyfroedd. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 7 |
|
| Fe sydd wedi gwneud y goleuadau mawrion. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 8 |
|
| Yr haul i reoli'r dydd. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 9 |
|
| a'r lleuad a'r sêr i reoli'r nos. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 10 |
|
| Fe wnaeth daro plant hynaf yr Aifft, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 11 |
|
| a dod ag Israel allan o'u canol nhw, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 12 |
|
| gyda nerth a chryfder rhyfeddol. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 13 |
|
| Fe wnaeth hollti'r Môr Coch, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 14 |
|
| a gadael i Israel fynd trwy ei ganol, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 15 |
|
| Fe wnaeth daflu'r Pharo a'i fyddin i'r Môr Coch, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 16 |
|
| ac arwain ei bobl drwy'r anialwch. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 17 |
|
| Fe wnaeth daro brenhinoedd cryfion i lawr, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 18 |
|
| a lladd brenhinoedd enwog — Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 19 |
|
| Sihon, brenin yr Amoriaid, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 20 |
|
| ac Og, brenin Bashan. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 21 |
|
| Rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth — Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 22 |
|
| yn etifeddiaeth i bobl Israel, sy'n ei wasanaethu. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 23 |
|
| Cofiodd amdanon ni pan oedden ni'n isel, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 24 |
|
| a'n hachub ni o afael ein gelynion, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 25 |
|
| Fe sy'n rhoi bwyd i bob creadur byw, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
| 26 |
|
| Rhowch ddiolch i'r Duw sy'n y nefoedd! Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! |
|
|
|
|