Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Ger afonydd Babilon yr oeddem yn eistedd ac yn wylo wrth inni gofio am Seion. |
| 2 |
| Ar yr helyg yno bu inni grogi ein telynau, |
| 3 |
| oherwydd yno gofynnodd y rhai a'n caethiwai am gn, a'r rhai a'n hanrheithiai am ddifyrrwch. "Canwch inni," meddent, "rai o ganeuon Seion." |
| 4 |
| Sut y medrwn ganu cn yr ARGLWYDD mewn tir estron? |
| 5 |
| Os anghofiaf di, Jerwsalem, bydded fy neheulaw'n ddiffrwyth; |
| 6 |
| bydded i'm tafod lynu wrth daflod fy ngenau os na chofiaf di, os na osodaf Jerwsalem yn uwch na'm llawenydd pennaf. |
| 7 |
| O ARGLWYDD, dal yn erbyn pobl Edom ddydd gofid Jerwsalem, am iddynt ddweud, "I lawr hi, i lawr hi hyd at ei sylfeini." |
| 8 |
| O ferch Babilon, a ddistrywir, gwyn ei fyd y sawl sy'n talu'n l i ti am y cyfan a wnaethost i ni. |
| 9 |
| Gwyn ei fyd y sawl sy'n cipio dy blant ac yn eu dryllio yn erbyn y graig. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/137.mp3
150
137