Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Wrth afonydd Babilon, dyma ni'n eistedd ac yn wylo wrth gofio am Seion. |
| 2 |
| Dyma ni'n hongian ein telynau ar y coed poplys yno. |
| 3 |
| Roedd y rhai oedd yn ein dal ni'n gaeth eisiau i ni ganu; a'n poenydwyr yn ein piwsio i'w difyrru: “Canwch un o ganeuon Seion i ni!” |
| 4 |
| Sut allen ni ganu caneuon yr ARGLWYDD ar dir estron? |
| 5 |
| Os anghofia i di, Jerwsalem, boed i'm llaw dde gael ei pharlysu. |
| 6 |
| Boed i'm tafod lynu wrth dop fy ngeg petawn i'n anghofio amdanat ti, a phetai Jerwsalem yn ddim pwysicach na phopeth arall sy'n rhoi pleser i mi. |
| 7 |
| Cofia, O ARGLWYDD, beth wnaeth pobl Edom y diwrnod hwnnw pan syrthiodd Jerwsalem. Roedden nhw'n gweiddi, “Chwalwch hi! Chwalwch hi i'w sylfeini!” |
| 8 |
| Babilon hardd, byddi dithau'n cael dy ddinistrio! Bydd yr un fydd yn talu'n ôl i ti ac yn dy drin fel gwnest ti'n trin ni, yn cael ei fendithio'n fawr! |
| 9 |
| Bydd yr un fydd yn gafael yn dy blant di ac yn eu hyrddio nhw yn erbyn y creigiau yn cael ei fendithio'n fawr! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/137.mp3
150
137