×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 138

1
1 I Ddafydd.0 Clodforaf di 'm holl galon, canaf fawl i ti yng ngu373?ydd duwiau.
2
Ymgrymaf tuag at dy deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw am dy gariad a'th ffyddlondeb, oherwydd dyrchefaist dy enw a'th air uwchlaw popeth.
3
Pan elwais arnat, atebaist fi, a chynyddaist fy nerth ynof.
4
Bydded i holl frenhinoedd y ddaear dy glodfori, O ARGLWYDD, am iddynt glywed geiriau dy enau;
5
bydded iddynt ganu am ffyrdd yr ARGLWYDD, oherwydd mawr yw gogoniant yr ARGLWYDD.
6
Er bod yr ARGLWYDD yn uchel, fe gymer sylw o'r isel, ac fe ddarostwng y balch o bell.
7
Er imi fynd trwy ganol cyfyngder, adfywiaist fi; estynnaist dy law yn erbyn llid fy ngelynion, a gwaredaist fi 'th ddeheulaw.
8
Bydd yr ARGLWYDD yn gweithredu ar fy rhan. O ARGLWYDD, y mae dy gariad hyd byth; paid gadael gwaith dy ddwylo.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau