Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd.0 Dywed yr ynfyd yn ei galon, "Nid oes Duw." Gwnnt weithredoedd llygredig a ffiaidd; nid oes un a wna ddaioni. |
| 2 |
| Edrychodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd ar ddynolryw, i weld a oes rhywun yn gwneud yn ddoeth ac yn ceisio Duw. |
| 3 |
| Ond y mae pawb ar gyfeiliorn, ac mor llygredig 'i gilydd; nid oes un a wna ddaioni, nac oes, dim un. |
| 4 |
| Oni ddarostyngir y gwneuthurwyr drygioni sy'n llyncu fy mhobl fel llyncu bwyd, ac sydd heb alw ar yr ARGLWYDD? |
| 5 |
| Yno y byddant mewn dychryn mawr, am fod Duw yng nghanol y rhai cyfiawn. |
| 6 |
| Er i chwi watwar cyngor yr anghenus, yr ARGLWYDD yw ei noddfa. |
| 7 |
| O na ddi gwaredigaeth i Israel o Seion! Pan adfer yr ARGLWYDD lwyddiant i'w bobl, fe lawenha Jacob, fe orfoledda Israel. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/014.mp3
150
14